Senior Associate Wales – Compliance Fixed Term Contract to 31 May 2022 / Uwch Swyddog Cyswllt Cymru – Cydymffurfiaeth. Dyddiad y daw’r contract i ben: 31.05.22

Equality and Human Rights Commission

Location Cardiff
Salary £38,990.64 (per annum and pro rata for part time)
Team Wales
  • Closing: 11:59pm, 30th Jun 2021 BST

Job Description

This is a bilingual document, please scroll down for Welsh.

Please note, our application form can be translated into Welsh by right-clicking, selecting translate, then the 3 dots then selecting Welsh.

About us

We are the Equality and Human Rights Commission. We are Great Britain’s national equality body and a United Nations accredited National Human Rights Institution. We were established by the Equality Act 2006 and our role is to protect and promote equality and human rights across England, Scotland and Wales. As a statutory non-departmental public body, we are funded by HM Treasury via the Cabinet Office, but we operate independently of governments.

We pride ourselves on being a flexible and inclusive employer. We celebrate difference, embrace diversity and support all our people to thrive at work. If this sounds interesting - apply to join us!

Our Vacancy

We are now looking for someone exceptional to join our Wales team who shares our values of fairness, dignity and respect and can work with us to build upon our achievements and ensure our vision becomes a reality.

Within the Wales, Corporate Strategy and Policy Network, the Senior Associate (Level 4) Wales Compliance, will be responsible for developing and delivering our compliance work in Wales including gathering intelligence on barriers to compliance in relation to our strategic aims, delivering interventions to improve compliance including through engagement with public bodies and private sector organisations within the priority areas identified in our strategic aims, delivery of advice and guidance, our public sector equality duty strategy and collaboration with regulators, inspectorates and ombudspeople. This will require building and managing effective stakeholder relationships in Wales, and providing written work to a high standard for a variety of audiences.  

The Senior Associate (L4) will report to the Principal, Wales and will work independently when required or with minimal or no supervision. This will depend on the task and will be within agreed delegated limits and supervisory frameworks.

Key Responsibilities

The key responsibilities for this role include:

Developing and delivering projects and interventions to:

  • Ensure public bodies’ compliance with equality legislation in Wales.

  • Increase access to high quality advice on equality and human rights in Wales.

Leading the delivery of specific areas of intelligence gathering or inquiries in Wales, often working closely with colleagues across Britain

Identifying and undertaking targeted compliance work to ensure organisations in Wales have the knowledge and tools they need to comply with the equality and human rights law.

Analysing information and evidence to identify barriers to, and ways to improve, compliance with equality and human rights law, particularly public body compliance.

Communicating legal concepts and advice into accessible, user-friendly language and/ or documents to promote compliance by external stakeholders

Developing and delivering a significant priority area aligned to our strategic plan

Identifying and engaging with internal and external stakeholders, developing and building effective relationships

Contributing to and at times leading on correspondence related to compliance with equality and human rights law in Wales

Planning and organising your own work and supporting the performance and development of our team.

Writing high quality communications and action plans, including for stakeholder engagement.

What we are looking for

The Senior Associate will require a strong understanding of equality and/or human rights legislation and the barriers to compliance with those laws in Wales and will have experience of delivering projects with impact, including through Inquiries and/or compliance work.

 Travel may be required to other locations to meet business needs. Currently working from home - we expect to return to our offices when it is safe to do so. We will implement a hybrid model of working which will allow our people to work more flexibly, dividing their time between office and remote working, as business needs requires.

Benefits

In addition to a competitive salary, we offer a range of benefits including flexible working patterns, 30 days annual leave plus 8 bank holidays (full time FTE), access to the Civil Service Pension Scheme and partnership pension schemes, and enhanced parental leave benefits. More information can be found in the candidate pack.

How to apply

If this sounds like the role for you, please review the attached Candidate Pack for more information and submit your application today!

Guaranteed Interview Scheme

The Equality and Human Rights Commission is an accredited Disability Confident Leader and operates a Guaranteed Interview Scheme (GIS) for candidates with a disability.

Should you wish to apply under our Guaranteed Interview Scheme or request a reasonable adjustment, please indicate this in your application.  

If you require an alternative accessible version of the application form or wish to discuss your application or reasonable adjustment  – please contact us by email at recruitment@equalityhumanrights.com or by telephone on 0161 829 8100.

Diversity in our workforce

At the Commission, we are proud of our inclusive workplace where we celebrate difference, value everyone’s contribution and where people of all backgrounds can thrive.  We do not accept discrimination or harassment, and all our recruitment decisions are based on fair and open competition, with appointment on merit. We are committed to further growing our workplace by making sure that the talent pipelines for our most senior roles are as diverse and inclusive as they can be. We welcome applications from everyone and encourage disabled people and people from an ethnic minority background to apply. This is to ensure we are taking positive action in order to achieve our legitimate aim of a balanced representation in our workforce at senior grades.

Amdanom ni

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ydym ni. Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ac rydym yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol wedi’i achredu gan y Cenhedloedd Unedig. Cawsom ein sefydlu gan Ddeddf Cydraddoldeb  2006 a’n rôl yw amddiffyn a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Fel corff cyhoeddus anadrannol statudol, cawn ein hariannu gan Drysorlys EM drwy’r Swyddfa Gabinet, ond rydym yn gweithredu’n annibynnol o lywodraethau. Rydym yn sefydliad arbenigol ac awdurdodol a chawn ein cydnabod fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, tystiolaeth a dadansoddi.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr hyblyg a chynhwysol. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, yn cofleidio amrywiaeth ac yn cefnogi pob un o’n pobl i ffynnu yn y gwaith. Os yw hyn yn swnio’n ddiddorol - ymunwch â ni!

Rydym yn awr yn ceisio am rywun eithriadol i ymuno â’n tîm Cymru sydd yn rhannu’n gwerthoedd o degwch, urddas a pharch ac yn gallu gweithio gyda ni i adeiladu ar ein llwyddiannau, gan sicrhau y gwireddir ein gweledigaeth.

O fewn Rhwydwaith Cymru, Strategaeth Gorfforaethol a Pholisi, bydd yr Uwch Swyddog Cyswllt (Lefel 4) Cydymffurfiaeth Cymru, yn gyfrifol dros ddatblygu a chyflenwi’n gwaith cydymffurfio yng Nghymru, gan gynnwys casglu gwybodaeth ar y rhwystrau rhag cydymffurfio mewn perthynas â’n nodau strategol, cyflenwi ymyriadau i wella cydymffurfiaeth gan gynnwys trwy ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a sefydliadau sector preifat o fewn y meysydd blaenoriaeth a nodir yn ein nodau strategol, cyflenwi cyngor a chanllaw, ein strategaeth dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a gweithio ar y cyd â rheolyddion, arolygiaethau a phobl ombwdsmon. Bydd hyn yn gofyn am adeiladu a rheoli perthnasau rhanddeiliad effeithiol yng Nghymru, a darparu gwaith ysgrifenedig o safon uchel ar gyfer amryw o gynulleidfaoedd.

Bydd yr Uwch Swyddog Cyswllt (L4) yn adrodd wrth y Prif Swyddog, Cymru a bydd yn gweithio’n annibynnol pan fydd angen. Bydd hyn yn dibynnu ar y dasg a bydd o fewn cyfyngiadau dirprwyedig wedi’u cytuno arnynt a fframweithiau goruchwylio.

Y rôl – uchafbwyntiau allweddol

Mae’r cyfrifoldebau allweddol ar gyfer y rôl hon yn cynnwys:

Datblygu a chyflenwi prosiectau ac ymyriadau i:

  • sicrhau cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus â deddfwriaeth cydraddoldeb yng Nghymru.

  • cynyddu mynediad i gyngor uchel ei ansawdd ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Arwain ar gyflenwi meysydd penodol o gasglu gwybodaeth neu ymholiadau yng Nghymru, yn aml yn gweithio’n glos gyda chydweithwyr ar draws Prydain.

Nodi ac ymgymryd â gwaith cydymffurfio a dargedwyd i sicrhau bod gan sefydliadau yng Nghymru’r wybodaeth a theclynnau sydd eu hangen arnynt i gydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol.

Dadansoddi gwybodaeth a thystiolaeth i nodi rhwystrau i, a ffyrdd i wella, cydymffurfiaeth â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, yn enwedig cydymffurfiaeth corff cyhoeddus.

Cyfathrebu cysyniadau a chyngor cyfreithiol i iaith hygyrch, hawdd ei deall a/neu ddogfennau i hybu cydymffurfiaeth gan randdeiliaid allanol

Datblygu a chyflenwi maes blaenoriaeth arwyddocaol wedi’i alinio i’n cynllun strategol

Nodi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan ddatblygu ac adeiladu perthnasau effeithiol

Cyfrannu at ac ar adegau’n arwain ar ohebiaeth mewn perthynas â chydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Cynllunio a threfnu’ch gwaith eich hun a chefnogi perfformiad a datblygiad ein tîm.

Ysgrifennu cyfathrebiadau a chynlluniau gweithredu o ansawdd uchel, gan gynnwys ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Yr hyn yr ydym yn ceisio amdano

Bydd yn ofynnol i’r Uwch Swyddog Cyswllt fod â dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth cydraddoldeb a/neu hawliau dynol a’r rhwystrau rhag cydymffurfio â’r cyfreithiau hynny yng Nghymru, a bod â phrofiad o gyflenwi prosiectau gydag effaith, gan gynnwys trwy Ymchwiliadau a/neu waith cydymffurfio.

Efallai bydd angen teithio.

Cewch eich asesu yn erbyn ein sgiliau craidd (Arweinyddiaeth, Rheoli Cyflenwi ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid) a’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd yn ofynnol ar gyfer y rôl yn y ffurflen gais. Darparwch dystiolaeth ac enghreifftiau o’ch hanes gweithio neu agweddau eraill eich bywyd i arddangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf sydd yn ofynnol. Ceir manylion llawn y meini prawf yn y pecyn ymgeisydd.

Buddion

Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm bach ond cefnogol; cewch eich datblygu ac fe anogir chi i arloesi a meddwl yn greadigol a chewch gyfle i weithio ar draws y Comisiwn.

Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae’n buddion hefyd yn cynnwys:

·        Ystod o batrymau gweithio hyblyg

·        Hawl gwyliau blynyddol o 30 diwrnod (wedi’i gyfraddio ar gyfer cyflogeion rhan amser), ac 8 Gŵyl y Banc y flwyddyn

·        Mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau pensiwn partneriaeth

·        Rhaglen Cymorth i Gyflogai, ac ystod o gynigion lles cyflogai

·        Benthyciadau tocyn tymor

·        Porthol Buddion Cyflogai, gan gynnwys seiclo i’r gwaith, rhoi i elusennau, gostyngiadau i’r gampfa ac arbedion manwerthu cyflogai

·        Mwy o opsiynau absenoldeb rhiant

·        Mynediad i Ddysgu’r Gwasanaeth Sifil ac ystod o opsiynau Dysgu a Datblygu cynhwysfawr gan gynnwys taliad tanysgrifiadau proffesiynol

·        Mynediad i borthol Swyddi Gwasanaeth Sifil

·        Gellid cynnig eu cyflog cyfredol i’r sawl sydd yn ymuno â ni o’r Gwasanaeth Sifil ar drosglwyddiad ar yr un lefel, pan yn bosib, a dim ond wrth fodloni gofynion ein canllaw cyflog cychwynnol.

Sut i wneud cais

Os dyma’r rôl i chi, darllenwch y Pecyn Ymgeisydd a atodwyd am fwy o wybodaeth a chyflwynwch eich cais heddiw! Candidate Pack

Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS)

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd achrededig ac felly yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS) i ymgeiswyr ag anabledd. Am ragor o wybodaeth ewch i -https://www.equalityhumanrights.com/en/careers/guaranteed-interview-scheme   

Os hoffech wneud cais o dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad neu ofyn am addasiad rhesymol, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Os oes angen fersiwn hygyrch amgenach o’r ffurflen gais arnoch neu hoffech drafod eich cais neu addasiad rhesymol  – cysylltwch â ni drwy e-bost i recruitment@equalityhumanrights.com neu ffonio ar 0161 829 8100.

Amrywiaeth yn ein gweithlu

Yn y Comisiwn, rydym yn falch o’n gweithle cynhwysol lle rydym yn dathlu gwahaniaeth, yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb a lle gall pobl o bob cefndir lwyddo. Ni fyddwn yn derbyn gwahaniaethu nac aflonyddu, a seilir pob un o’n penderfyniadau recriwtio ar gystadleuaeth deg ac agored, gan benodi ar haeddiant. Rydym wedi ymrwymo i dyfu’n gweithle’n bellach drwy sicrhau bod y pibellau doniau ar gyfer ein huwch rolau mor amrywiol a chynhwysol ag y gallant fod. Croesawn geisiadau gan bawb ac yn annog pobl anabl a phobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig i wneud cais. Mae hyn i sicrhau ein bod yn cymryd camau positif er mwyn cyflawni’n nod gyfreithlon o gynrychioliad cytbwys yn ein gweithlu ar yr uwch raddau.

Removing bias from the hiring process

Applications closed Wed 30th Jun 2021

x

Removing bias from the hiring process

  • Your application will be anonymously reviewed by our hiring team to ensure fairness
  • You won't need a CV to apply to this job

Applications closed Wed 30th Jun 2021