Senior Associate - Policy & Public Affairs Wales / Uwch Swyddog Cyswllt – Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru

Equality and Human Rights Commission

  • Team: People Team
  • Grade: Senior Associate Level 4
  • Salary: £38,990.64
  • Location: Cardiff
  • Closing: 11:59pm, 29th May 2022 BST

Job Description

* This is a bilingual advert, scroll down for the Welsh version.

About us

The Equality and Human Rights Commission is the regulator of equality and human rights for Great Britain. We are Great Britain’s national equality body and a United Nations accredited National Human Rights Institution. We were established by the Equality Act 2006 and our job is to protect and promote equality and human rights across England, Scotland and Wales. We do this by safeguarding and enforcing the laws that protect people’s rights to fairness, dignity and respect.

Britain has a strong reputation as a global leader in equality and human rights and we are committed to ensuring this continues into the future. We are ambitious to achieve maximum impact with the powers and levers available to us to bring about change in society and make a difference to individual’s lives.

As a statutory non-departmental public body, we are funded by HM Treasury via the Cabinet Office, but we operate independently of governments.

We pride ourselves on being a flexible and inclusive employer. We celebrate difference, embrace diversity and support all our people to thrive at work. If this sounds interesting - apply to join us!

Our Vacancy

This is an exciting opportunity to ensure that equality and human rights are at the centre of the Programme for Government and Co-operation Agreement in Wales and that we are well placed to maximise impact of our current and new strategic plan. The role holder will play a leading role in the Policy and Public Affairs function working across all the Commission’s priorities.

We are looking for someone with a strong skill set in public affairs and a deep understanding of the political context in Wales.

Reporting to the Principal Policy and External Affairs, this role will work independently when required. This will depend on the task and will be within agreed delegated limits and supervisory frameworks.

Key Responsibilities

The key responsibilities for this role include:

  • Lead and co-ordinate our work to ensure that the Programme for Government and Co-operation Agreement in Wales embeds our priorities on equality and human rights. This will mean co-ordinating our policy messages across complex issues and clearly communicating them to key stakeholders; and liaising with colleagues in both the Wales team and the GB policy teams to maximise impact.

  • Lead and co-ordinate our engagement and advice to Senedd Cymru, the Welsh Parliament. This will include preparing and co-ordinating our expert policy and legal advice to Senedd Committees, preparing policy and legal briefings for Plenary debates and engaging with Members of the Senedd to communicate our priorities and policy positions. Briefing our Wales Commissioner and Wales Committee Members as appropriate.

  • Deliver high impact policy, public affairs and communications strategies and projects to maximise the impact of our strategic plan in Wales, maintaining and building on our strong stakeholder relationships to extend our reach.

What we are looking for

We are looking for someone exceptional to join our Wales team who shares our values of fairness, dignity and respect and can work with us to build upon our achievements and ensure our vision becomes a reality.

Working as a Senior Associate at the Equality and Human Rights Commission, you will contribute to and/or lead work in support of the delivery of our Business Plan.

Our Senior Associates have many opportunities for autonomy and responsibility and are able to work effectively across the Commission, contributing to the success of our projects and/or specialist areas of work. Working flexibly and collaboratively, you will be a self-starter who requires minimal supervision and oversight from senior colleagues. You will continue to hone your judgement and professional/technical skills, taking pride in your work and supporting/developing others.

As a Senior Associate, you may lead a small number of allocated resources and/or support and motivate others to meet their objectives, always ensuring our people are provided with the leadership they need to flourish. You will have the opportunity to coach and mentor others, while also personally benefitting from coaching from others. 

You will be assessed against our core skills (Leadership, Delivery Management and Stakeholder Engagement) and the knowledge, skills and experience required for the role in the application form. Please provide evidence and examples from your work history or other aspects of your life to demonstrate how you meet the criteria required. Full criteria details can be found in the candidate pack.

Important InformationCurrently, we are hybrid working, which is where an employee works 40% of their week in their EHRC office and the remaining part of the week from home. This is a voluntary, non-contractual arrangement and your office will be your contractual place of work. The number of days that anyone will be able to work at home will be determined primarily by business need.

Benefits

In addition to a competitive salary, we offer a range of benefits including flexible working patterns, 30 days annual leave plus 8 bank holidays (full time FTE), access to the Civil Service Pension Scheme and partnership pension schemes, and enhanced parental leave benefits. More information can be found in the candidate pack.

How to apply

If this sounds like the role for you, please review the attached Candidate Pack for more information and submit your application today!

Guaranteed Interview Scheme

The Equality and Human Rights Commission is an accredited Disability Confident Leader and operates a Guaranteed Interview Scheme (GIS) for candidates with a disability.

Should you wish to apply under our Guaranteed Interview Scheme or request a reasonable adjustment, please indicate this in your application.  

If you require an alternative accessible version of the application form or wish to discuss your application or reasonable adjustment  – please contact us by email at recruitment@equalityhumanrights.com or by telephone on 0161 829 8100.

Diversity in our workforce

At the Commission, we are proud of our respectful workplace that values the contribution of all our staff, whatever their background.  We do not tolerate discrimination or harassment. Our recruitment decisions are based on fair, open competition, with appointment on merit. We welcome applications from everyone to ensure we achieve a balanced representation in our workforce in all grades.

Uwch Swyddog Cyswllt – Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru

Amdanom ni

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer Prydain Fawr. Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ac rydym yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol achrededig y Cenhedloedd Unedig. Cawsom ein sefydlu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a’n gwaith ni yw diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Gwnawn hyn drwy ddiogelu a gorfodi’r cyfreithiau sy’n amddiffyn hawliau pobl i degwch, urddas a pharch.

Mae gan Brydain enw da iawn fel arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod hyn yn parhau i’r dyfodol. Rydym yn uchelgeisiol i gael yr effaith fwyaf gyda’r pwerau a’r ysgogiadau sydd ar gael i ni i sicrhau newid yn y gymdeithas a gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion.

Fel corff cyhoeddus anadrannol statudol, rydym yn cael ein hariannu gan Drysorlys EM drwy Swyddfa’r Cabinet, ond rydym yn gweithredu’n annibynnol ar lywodraethau.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr hyblyg a chynhwysol. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr hyblyg a chynhwysol. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, yn croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi pob un o'n pobl i ffynnu yn y gwaith. Os yw hyn o ddiddordeb i chi - gwnewch gais i ymuno â ni!

Ein Swydd Wag

Mae hwn yn gyfle cyffrous i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i’r Rhaglen Lywodraethu a Chytundeb Cydweithio yng Nghymru a’n bod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar effaith ein cynllun strategol presennol a newydd. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y swyddogaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan weithio ar draws holl flaenoriaethau’r Comisiwn.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cryf mewn materion cyhoeddus a dealltwriaeth ddofn o’r cyd-destun gwleidyddol yng Nghymru.

Gan adrodd i'r Prif Swyddog Polisi a Materion Allanol, bydd y rôl hon yn gweithio'n annibynnol pan fo angen. Bydd hyn yn dibynnu ar y dasg a bydd o fewn terfynau dirprwyedig cytunedig a fframweithiau goruchwylio.

Cyfrifoldebau AllweddolMae cyfrifoldebau allweddol y swydd hon yn cynnwys:

  • Arwain a chydlynu ein gwaith i sicrhau bod y Rhaglen Lywodraethu a Chytundeb Cydweithio yng Nghymru yn gwreiddio ein blaenoriaethau ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Bydd hyn yn golygu cydlynu ein negeseuon polisi ar draws materion cymhleth a'u cyfathrebu'n glir i randdeiliaid allweddol; a chysylltu â chydweithwyr yn nhîm polisi Cymru a thimau polisi Prydain Fawr i sicrhau'r effaith fwyaf posibl.

  • Arwain a chydlynu ein hymgysylltiad a’n cyngor i Senedd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys paratoi a chydgysylltu ein cyngor polisi a chyfreithiol arbenigol i Bwyllgorau’r Senedd, paratoi briffiau polisi a chyfreithiol ar gyfer dadleuon yn y Cyfarfod Llawn ac ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd i gyfleu ein blaenoriaethau a’n safbwyntiau polisi. Briffio ein Comisiynydd Cymru ac Aelodau Pwyllgor Cymru fel y bo’n briodol.

  •  Cyflawni strategaethau a phrosiectau polisi, materion cyhoeddus a chyfathrebu effaith uchel er mwyn sicrhau bod ein cynllun strategol yng Nghymru yn cael yr effaith fwyaf bosibl, gan gynnal ac adeiladu ar ein perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid i ymestyn ein cyrhaeddiad.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Rydym yn chwilio am rywun eithriadol i ymuno â’n tîm Cymru sy’n rhannu ein gwerthoedd o degwch, urddas a pharch ac a all weithio gyda ni i adeiladu ar ein cyflawniadau a sicrhau bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu.

Gan weithio fel Uwch Swyddog Cyswllt yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, byddwch yn cyfrannu at a/neu arwain gwaith i gefnogi cyflawni ein Cynllun Busnes.

Mae gan ein Uwch Swyddogion Cyswllt lawer o gyfleoedd ar gyfer ymreolaeth a chyfrifoldeb a gallant weithio'n effeithiol ar draws y Comisiwn, gan gyfrannu at lwyddiant ein prosiectau a/neu feysydd gwaith arbenigol. Gan weithio'n hyblyg ac ar y cyd, byddwch yn berson hunan-gychwynnol sydd angen ychydig iawn o oruchwyliaeth gan uwch gydweithwyr. Byddwch yn parhau i fireinio eich crebwyll a'ch sgiliau proffesiynol/technegol, gan ymfalchïo yn eich gwaith a chynorthwyo/datblygu eraill.

Fel Uwch Swyddog Cyswllt, gallwch arwain nifer fach o adnoddau a neilltuwyd a/neu gynorthwyo ac ysgogi eraill i gyflawni eu hamcanion, gan sicrhau bob amser bod ein pobl yn cael yr arweiniad sydd ei angen arnynt i ffynnu. Byddwch yn cael y cyfle i hyfforddi a mentora eraill, tra hefyd yn elwa'n bersonol o hyfforddiant gan eraill.

Byddwch yn cael eich asesu yn erbyn ein sgiliau craidd (Arweinyddiaeth, Rheoli Cyflawni ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid) a'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y ffurflen gais. Darparwch dystiolaeth ac enghreifftiau o'ch hanes gwaith neu agweddau eraill ar eich bywyd i ddangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf gofynnol. Ceir manylion llawn y meini prawf yn y pecyn ymgeisydd.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol, rydym yn cynnig ystod o fuddion gan gynnwys patrymau gwaith hyblyg, 30 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl banc (FTE amser llawn), mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau pensiwn partneriaeth, a buddion absenoldeb rhiant uwch. Ceir rhagor o wybodaeth yn y pecyn ymgeisydd.

Sut i wneud cais

Os yw hyn yn ymddangos fel y swydd i chi, a fyddech cystal â darllen y Pecyn Ymgeisydd am ragor o wybodaeth a chyflwynwch eich cais heddiw!

Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd achrededig ac mae'n gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS) ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd.

Os hoffech wneud cais o dan ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad neu wneud cais am addasiad rhesymol, nodwch hynny yn eich cais.

Os oes angen fersiwn hygyrch arall o’r ffurflen gais arnoch neu os hoffech drafod eich cais neu addasiad rhesymol – cysylltwch â ni drwy e-bost yn recruitment@equalityhumanrights.com neu dros y ffôn ar 0161 829 8100.

Amrywiaeth yn ein gweithlu

Yn y Comisiwn, rydym yn falch o’n gweithle cynhwysol lle rydym yn dathlu gwahaniaeth, yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb a lle gall pobl o bob cefndir ffynnu.

Nid ydym yn derbyn gwahaniaethu nac aflonyddu, ac mae ein holl benderfyniadau recriwtio yn seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored, gyda phenodiad ar sail teilyngdod. Rydym wedi ymrwymo i dyfu ein gweithle ymhellach drwy wneud yn siŵr bod y piblinellau talent ar gyfer ein swyddi uwch mor amrywiol a chynhwysol ag y gallant fod. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog pobl anabl a phobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig i wneud cais. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau cadarnhaol er mwyn cyflawni ein nod cyfreithlon o gynrychiolaeth gytbwys yn ein gweithlu ar raddau uwch.

Removing bias from the hiring process

  • Your application will be anonymously reviewed by our hiring team to ensure fairness
  • You won't need a CV to apply to this job

Start your de-biased application

x

Removing bias from the hiring process

  • Your application will be anonymously reviewed by our hiring team to ensure fairness
  • You won't need a CV to apply to this job

Start your de-biased application