Swyddog Iaith Gymraeg / Senior Associate Welsh Language Officer

Equality and Human Rights Commission

Location Cymru / Cardiff
Salary £31,015.68
Team Wales
  • Closing: 11:55pm, 1st Oct 2021 BST

Job Description

This is a bilingual document, please scroll down for English.   Please note, our application form can be translated into Welsh by right-clicking, selecting translate, then the 3 dots then selecting Welsh. We welcome applications in English or Welsh. 

Amdanom ni

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ydym ni. Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ac rydym yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol wedi’i achredu gan y Cenhedloedd Unedig. Cawsom ein sefydlu gan Ddeddf Cydraddoldeb  2006 a’n rôl yw amddiffyn a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Fel corff cyhoeddus anadrannol statudol, cawn ein hariannu gan Drysorlys EM drwy’r Swyddfa Gabinet, ond rydym yn gweithredu’n annibynnol o lywodraethau. Rydym yn sefydliad arbenigol ac awdurdodol a chawn ein cydnabod fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, tystiolaeth a dadansoddi.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr hyblyg a chynhwysol. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, yn cofleidio amrywiaeth ac yn cefnogi pob un o’n pobl i ffynnu yn y gwaith. Os yw hyn yn swnio’n ddiddorol - ymunwch â ni!

 Ydych chi’n arbenigwr yn yr iaith Gymraeg?  Os ydych chi dyma amser cyffrous i ymuno â Thîm Cymru, wrth i ni gefnogi cyflenwi Cynllun Strategol newydd y Comisiwn, gan gofleidio newid a datblygiad yn dilyn y pandemig byd eang. Dros y 2 flynedd nesaf, yn ogystal â chyflenwi ein gwaith craidd – gan fanteisio ar effaith fwyaf y Cynllun Strategol yng Nghymru, gan sicrhau bod y Comisiwn yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg a chefnogi ymgysylltiad iaith Gymraeg y Comisiwn â rhanddeiliaid – byddwn hefyd yn cyflenwi ein cynlluniau gwella cydymffurfiaeth â’r Safonau Iaith Gymraeg. Mae llawer o waith i’w wneud, ac ni fydd jyglo’n blaenoriaethau’n hawdd, ond os ydych yn edrych am her, yn mwynhau gweithio mewn tîm hyblyg a chefnogol, ac rydych yn hoffi rôl lle byddwch yn gallu cael effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol – yna efallai bod gennym yr union swydd wag i chi.

Y rôl – uchafbwyntiau allweddol

Rydym yn recriwtio am Swyddog Iaith Gymraeg, i ymuno â’r tîm mewn rôl dechnegol. Gan adrodd wrth Bennaeth Cymru, byddwch yn:

Cyflawni rôl allweddol wrth gyflenwi’n cydymffurfiaeth â Safonau Iaith Gymraeg a chynlluniau gwelliant, darparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg rhagorol a chefnogi cydweithwyr ar draws y Comisiwn i gyflenwi’r hyn sydd ei angen i gynnal cydymffurfiaeth a darparu cefnogaeth iaith Gymraeg ehangach.Cyfrannu at waith ehangach tîm Cymru fel bo’n briodol.         

·       Rheoli cynnwys iaith Gymraeg gwefan y Comisiwn a strategaeth ddigidol.

·       I gysylltu ag asiantaethau cyfieithu a sefydlu safonau a rennir a chysondeb geirfa cydraddoldeb yn y Gymraeg

·       Rheoli ein hymgysylltu iaith Gymraeg â rhanddeiliaid

 Yr hyn yr ydym yn edrych amdano

Bydd y rôl yn amrywiol ac arbenigol. Gam fod ychydig o ansicrwydd am effaith y pandemig ar eich gwaith, bydd angen i chi fod yn:

·       Wydn, yn hyblyg, yn canolbwyntio ar gyflenwi ac i allu meithrin perthynas lwyddiannus yn gyflym ac yn effeithiol gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys ein tîm cyfathrebu a Rheolyddion.

·       I fod yn gwbl ddwyieithog yng Nghymraeg a Saesneg gyda phrofiad ymarferol o gyflenwi cefnogaeth iaith Gymraeg o lefel uchel, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i, cyfieithu gwybodaeth ysgrifenedig o’r Saesneg i’r Gymraeg yn gyflym ac yn gywir, darllen/cywiro proflenni, a chynnal a chefnogi cyfarfodydd yn Gymraeg.

·       Mae profiad o gyfathrebiadau digidol, dwyieithog ac ategol yn ddymunol.

 Cewch eich asesu yn erbyn ein sgiliau craidd (Arweinyddiaeth, Rheoli Cyflenwi ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid) a’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd yn ofynnol ar gyfer y rôl yn y ffurflen gais. Darparwch dystiolaeth ac enghreifftiau o’ch hanes gweithio neu agweddau eraill eich bywyd i arddangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf sydd yn ofynnol. Ceir manylion llawn y meini prawf yn y pecyn ymgeisydd.

 Buddion

Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm bach ond cefnogol o weithwyr proffesiynol cydraddoldeb a hawliau dynol; cewch eich datblygu ac fe anogir chi i arloesi a meddwl yn greadigol a chewch gyfle i weithio gyda’r tîm ar lywio rhai o’n gweithgareddau i gyflenwi ein blaenoriaethau ac effaith yng Nghymru.

 Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae’n buddion hefyd yn cynnwys:

 

·       Ystod o batrymau gweithio hyblyg

·       Hawl gwyliau blynyddol o 30 diwrnod (wedi’i gyfraddio ar gyfer cyflogeion rhan amser), ac 8 Gŵyl y Banc y flwyddyn

·       Mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau pensiwn partneriaeth

·       Rhaglen Cymorth i Gyflogai, ac ystod o gynigion lles cyflogai

·       Benthyciadau tocyn tymor

·       Porthol Buddion Cyflogai, gan gynnwys seiclo i’r gwaith, rhoi i elusennau, gostyngiadau i’r gampfa ac arbedion manwerthu cyflogai

·       Mwy o opsiynau absenoldeb rhiant

·       Mynediad i Ddysgu’r Gwasanaeth Sifil ac ystod o opsiynau Dysgu a Datblygu cynhwysfawr gan gynnwys taliad tanysgrifiadau proffesiynol

·       Mynediad i borthol Swyddi Gwasanaeth Sifil

·       Gellid cynnig eu cyflog cyfredol i’r sawl sydd yn ymuno â ni o’r Gwasanaeth Sifil ar drosglwyddiad ar yr un lefel, pan yn bosib, a dim ond wrth fodloni gofynion ein canllaw cyflog cychwynnol.

 Os dyma’r rôl i chi, darllenwch y Pecyn Ymgeisydd a atodwyd am fwy o wybodaeth a chyflwynwch eich cais heddiw!

 Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd achrededig ac felly yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS) i ymgeiswyr ag anabledd. Am ragor o wybodaeth ewch i -https://www.equalityhumanrights.com/en/careers/guaranteed-interview-scheme  

Os hoffech wneud cais o dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad neu ofyn am addasiad rhesymol, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   

Os oes angen fersiwn hygyrch amgenach o’r ffurflen gais arnoch neu hoffech drafod eich cais neu addasiad rhesymol  – cysylltwch â ni drwy e-bost i recruitment@equalityhumanrights.com neu ffonio ar 0161 829 8100.

 Yn y Comisiwn, rydym yn falch o’n gweithle cynhwysol lle rydym yn dathlu gwahaniaeth, yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb a lle gall pobl o bob cefndir lwyddo. Ni fyddwn yn derbyn gwahaniaethu nac aflonyddu, a seilir pob un o’n penderfyniadau recriwtio ar gystadleuaeth deg ac agored, gan benodi ar haeddiant. Rydym wedi ymrwymo i dyfu’n gweithle’n bellach drwy sicrhau bod y pibellau doniau ar gyfer ein huwch rolau mor amrywiol a chynhwysol ag y gallant fod. Croesawn geisiadau gan bawb ac yn annog pobl anabl a phobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig i wneud cais. Mae hyn i sicrhau ein bod yn cymryd camau positif er mwyn cyflawni’n nod gyfreithlon o gynrychioliad cytbwys yn ein gweithlu ar yr uwch raddau.

About us

We are the Equality and Human Rights Commission. We are Great Britain’s national equality body and a United Nations accredited National Human Rights Institution. We were established by the Equality Act 2006 and our role is to protect and promote equality and human rights across England, Scotland and Wales. As a statutory non-departmental public body, we are funded by HM Treasury via the Cabinet Office, but we operate independently of governments. We are an expert and authoritative organisation and are recognised as a centre of excellence for equality and human rights law, evidence and analysis.

 We pride ourselves on being a flexible and inclusive employer. We celebrate difference, embrace diversity and support all our people to thrive at work. If this sounds interesting - join us!

Are you a Welsh language expert?  If so this is an exciting time to join the Wales Team, as we support the delivery of the Commission’s new Strategic Plan, embracing change and development following the global pandemic. Over the next 2 years, in addition to delivering our core work – maximising the impact of the Strategic Plan in Wales, ensuring Commission Compliance with the Welsh Language Standards and supporting  the Commission's  Welsh language stakeholder engagement - we will also deliver our Welsh Language Standards improvement plans. There is a lot of work to do, and juggling our priorities will not be easy, but if you are looking for a challenge, enjoy working in a flexible and supportive team, and you like a role where you will be able to have an impact on equality and human rights – then we may have just the vacancy for you.

 The role - key highlights

We are recruiting for a Welsh Language Officer, to join the team in a technical role. Reporting to the Head of Wales, you will

·       Perform a key role in the delivery of our Welsh Language Standards compliance and improvement plans, provide an excellent Welsh translation service and support colleagues across the Commission to deliver what is necessary to maintain compliance and provide expert wider Welsh language support. Contribute to the wider work of the Wales team as appropriate.

·       Manage the Welsh language content of the Commission's website and digital strategy.

·       Liaise with translation agencies and establish shared standards and consistency of equality terminology in Welsh.

·       Manage our Welsh language stakeholder engagement.

 What we are looking for

The role will be varied and specialist.  As there is a degree of uncertainty about the impact of the pandemic on your work, so you will need:

·       Resilience, flexibility, delivery focused and be able to build successful relationships quickly and effectively with a range of stakeholders, including our communications team and Regulators.

·       To be fully bilingual in Welsh and English with proven experience of delivering high level Welsh language support, including but not limited to, translation of written information from English to Welsh including at speed with accuracy, proof reading, and conducting and supporting meetings through the medium of Welsh.

·       Experience of supporting bilingual digital communications is desirable.

 You will be assessed against our core skills (Leadership, Delivery Management and Stakeholder Engagement) and the knowledge, skills and experience required for the role in the application form. Please provide evidence and examples from your work history or other aspects of your life to demonstrate how you meet the criteria required. Full criteria details can be found in the candidate pack.

 Benefits

In return, you will join a small but supportive team of equality and human rights professionals; you will be supported in your development and encouraged to innovate and think creatively and you will be given an opportunity to work with the team on shaping some of our activities to deliver our priorities and impact in Wales.

 In addition to a competitive salary, our benefits also include:

·       A range of flexible working patterns

·       Annual leave entitlement of 30 days (pro-rated for part time employees), plus 8 Bank Holidays per year

·       Access to Civil Service Pension Scheme and partnership pension schemes

·       Employee Assistance Programme, and a range of employee wellbeing offerings

·       Employee Benefits Portal, including cycle to work, charity giving, gym discounts and employee retail savings

·       Favourable enhanced parental leave options

·       Access to Civil Service Learning and a range of comprehensive Learning and Development options including payment of professional subscriptions.

·       Access to Civil Service Jobs portal

·       Those joining us from with the Civil Service on a level transfer may be offered their current salary, where possible, and only where the requirements of our starting pay guidance are met.

 If this sounds like the role for you, please review the attached Candidate Brief for more information and submit your application today!

 The Equality and Human Rights Commission is an accredited Disability Confident Leader and operates a Guaranteed Interview Scheme (GIS) for candidates with a disability. For more information view -https://www.equalityhumanrights.com/en/careers/guaranteed-interview-scheme

 Should you wish to apply under GIS or request a reasonable adjustment, please indicate this in your application.  

If you require an alternative accessible version of the application form or wish to discuss your application or reasonable adjustment  – please contact us by email at recruitment@equalityhumanrights.com or by telephone on 0161 829 8100.

 At the Commission, we are proud of our inclusive workplace where we celebrate difference, value everyone’s contribution and where people of all backgrounds can thrive.  We do not accept discrimination or harassment, and all our recruitment decisions are based on fair and open competition, with appointment on merit. We are committed to further growing our workplace by making sure that the talent pipelines for our most senior roles are as diverse and inclusive as they can be. We welcome applications from everyone and encourage disabled people and people from an ethnic minority background to apply. This is to ensure we are taking positive action in order to achieve our legitimate aim of a balanced representation in our workforce at senior grades.

 

 

Removing bias from the hiring process

Applications closed Fri 1st Oct 2021

x

Removing bias from the hiring process

  • Your application will be anonymously reviewed by our hiring team to ensure fairness
  • You won't need a CV to apply to this job

Applications closed Fri 1st Oct 2021